Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 6ed 2022

Milfeddyg, Anthropoleg, Archeoleg, Hud a Lledrith, Ci Selsig a Brownies

Bore Cothi - Huw Williams 29.11

Ddechrau鈥檙 wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o鈥檙 Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr 糯yl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio...

Ffair Aeaf Winter Fair

Milfeddygon Vets

Darlledu Broadcasting

Hamddenol Leisurely

Archwilio To inspect

Anhygoel Incredible

Y cylch The ring

Beirniad Judge

Rhesymu鈥檔 gyhoeddus Outlining the reasons publicly

Arddangoswyr Exhibitioners

Beti a鈥橧 Phobl 鈥� Sylvia Davies 4.12

Blas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi.

Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o鈥檙 sgwrs ble mae hi鈥檔 esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i鈥檙 brifysgol i astudio anthropoleg ar 么l iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc...

Doedd fy mryd i ddim I wasn鈥檛 inclined

Trywydd traddodiadol A traditional path

Aeth ar gyfeiliorn Went astray

Ennill fy nhamed To earn my living

Gradd Degree

Tystiolaeth Evidence

Tystysgrif Certificate

Dyrchafiad Promotion

Mo鈥檡n Eisiau

Crefydd Religion

Dros Ginio 鈥� Rhys Mwyn 28.11

Sylvia Davies oedd honna鈥檔 esbonio wrth Beti George beth wnaeth iddi hi benderfynu mynd i brifysgol yn hytrach nag aros yn y banc.
Nia Ceris oedd yn cyflwyno Dros Ginio bnawn Llun a chafodd hi sgwrs gyda鈥檙 cyflwynydd radio a鈥檙 archeolegydd Rhys Mwyn am y mosaig anhygoel o oes y Rhufeiniaid cafodd ei ffeindio ar dir fferm yn Swydd Rutland. Ydy hi鈥檔 bosib i rywbeth mor hen a hynny fod mewn cyflwr da? Dyma beth oedd gan Rhys i鈥檞 ddweud...

Y Rhufeiniaid The Romans

Cyflwr Condition

Wedi cael llonydd Been undisturbed

Goroesi To survive

Aredig Ploughed

Ail gladdu To rebury

Cofnodi To record

Y bedwaredd ganrif The fourth century

Chwalu To destroy

Gaeafau garw Rough winters

Tir sad Stable land

Caryl 鈥� Professor Llusern 30.11

Beth fydd yn digwydd i鈥檙 mosaig hwnnw tybed, fydd e鈥檔 cael ei ail gladdu fel roedd Rhys yn ei awgrymu? Cawn weld on鈥檇 ife?
Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio 芒 chonsuriwr nos Fercher o鈥檙 enw Professor Llusern. Mae e鈥檔 dod o Fostyn yn Sir y Fflint a gofynnodd Caryl iddo fe pa mor anodd yw hi i ymuno 芒鈥檙 Magic Circle鈥�.neu鈥檙 Cylch Hud鈥�..

Consuriwr Magician

Hen ddywediad Old saying

Cyfrinachau hud a lledrith Magic secrets

Enwebu To nominate

Dros dro Temporary

Wir o ddifri Really serious

Bore Cothi - Cwn Selsig 30.11

Wel dyna ni, os dych chi鈥檔 ffansio bod yn gonsuriwr, dych chi gwybod beth i鈥檞 wneud nawr.
Erbyn bore Mercher roedd criw Shan Cothi wedi dod yn 么l o鈥檙 Ffair Aeaf yn Llanelwedd i鈥檙 stiwdio yng Nghaerfyrddin lle cafodd gyfle i siarad ag Emma Hughes sydd yn berchennog ar Seth. Ci Daschund yw Seth ag Emma yw sefydlydd Cymdeithas C诺n Selsig Gogledd Cymru, a gofynnodd Shan iddi hi鈥榥 gynta faint o aelodau sydd yn y gymdeithas

Sefydlydd Founder

Perchennog Owner

Mae gen i ofn I鈥檓 afraid

Pryderon Worries

Gweddol rhwydd Eitha hawdd

Ifan Evans 鈥� Llanbed 1.12

Ramp i g诺n selsig 鈥� dyna dda on鈥檇 ife?
Aeth criw Rhaglen Ifan Evans allan o鈥檙 stiwdio ddydd Iau a mynd draw i Lanbedr Pont Steffan gan ei bod yn noson siopa hwyr y dref. Cafodd Ifan gyfle i holi Meinir Evans gwraig leol ddechreuodd busnes pobi yn ystod y cyfnod clo. Gofynnodd Ifan iddi hi鈥檔 gynta beth yn union yw鈥檙 busnes

Pobi To bake

Y cyfnod clo Lockdown

Syndod o dda Surprisingly well

Shwd (sut) fraint Such a privilege

Cacs Cacennau

Ffili Methu

Ieuenctid Youth

Deugain mlynedd 40 years

Ddim digon o blwc Not brave enough

Danteithion Delicacies

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆社 Radio Cymru,

Podlediad