Main content

Alan Llwyd Bardd Mis Ebrill Radio Cymru

Croesawu鈥檙 Gwanwyn

Mae hi鈥檔 wanwyn eto, ac mae鈥檙 coed yn blaguro i gyd;
mae鈥檙 cennin pedr 芒鈥檜 lledrith yn melynu鈥檙 l么n,
a chyn hir fe ddaw鈥檙 gwcw, ar 么l iddi oedi gyhyd,
i disian ei dwysill, i daenu undonedd ei th么n.

Aeth dau o鈥檔 gwanwynau i鈥檙 gwellt. Un gwanwyn daeth haint
i鈥檔 merwino a鈥檔 rhynnu, a pheri inni grynu鈥檔 y gwres
gan arswyd a gwaeledd ac ofn; rhag cynyddu maint
y golled fe鈥檌 cadwai鈥檔 ein tai a鈥檔 cloi rhag y tes.

A鈥檙 llynedd, ar drothwy鈥檙 gwanwyn, heb i neb ein rhybuddio,
roedd y tanciau o Rwsia yn croesi鈥檙 ffin i Wcr谩in
i falurio pobol a thai, i ladd a llofruddio,
a thynged y byd yn ymgrogi ar edefyn main.

A gawn ni groesawu鈥檙 gwanwyn, er bygythiad y gwn,
芒 gorfoledd newydd, 芒 llawenydd yr Ebrill hwn?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau