Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Ebrill 2023
Fondue, Milfeddygaeth, Maori, Addurno Cacennau, Crefftio Lledr, U Thant
Cafodd Aled Hughes sgwrs wythnos diwetha gyda Sioned Mair am Fondue, bwyd sydd yn dod yn 么l i ffasiwn y dyddiau hyn. Ond beth yn union yw Fondue? Doedd dim syniad gydag Aled a dyma i chi Sioned yn esbonio鈥�
Toddi To melt
Mae鈥檔 debyg Probably
Amrwd Raw
Rhannu To share
Argymell To recommend
Pigion Dysgwyr 鈥� Troi鈥檙 Tir
Mae鈥檔 debyg bod Fondue yn un o nifer o fwydydd y 70au sy鈥檔 dod yn 么l i ffasiwn. Cyw i芒r mewn basged unrhyw un?
Mae Troi鈥檙 Tir ar Radio Cymru yn rhoi sylw i faterion ffermio a chefn gwlad, a鈥檙 wythnos diwetha dysgon ni ychydig am waith y fet. Mae Malan Hughes yn filfeddyg yn ardal Y Ffor ger Pwllheli a dyma hi yn rhoi syniad i ni o鈥檙 math o waith mae hi鈥檔 ei wneud o ddydd i ddydd鈥︹��
Milfeddyg Vet
Un ai Either
Ymddiddori To take an interest in
Ambell i lo Some calves
Cathod di-ri Innumerable cats
Pry lludw Wood lice
Silwair Silage
Ardal eang A wide area
Pigion Dysgwyr - Maori
Wel am fywyd prysur ac amrywiol sy gan milfeddygon on鈥檇 ife?
I Seland Newydd nawr - ble mae Iwan Llyr Jones, sy'n dod o Finffordd ger Penrhyndeudraeth Gwynedd yn wreiddiol, yn byw.
Cafodd Iwan ei ganmol ar-lein am iddo ddewis cael ei seremoni dinasyddiaeth yn Seland Newydd yn gyfan gwbl drwy鈥檙 iaith Maori. Dyma Iwan ar Dros Frecwast fore Iau yn esbonio wrth Dylan Ebenezer faint o鈥檙 iaith Maori sydd i鈥檞 chlywed yn Seland Newydd
Canmol To praise
Dinasyddiaeth Citizenship
Ymateb Response
Trawiadol Striking
Sylw Attention
Tyngu llw To swear an oath
Tebygrwydd Similarity
Pigion Dysgwyr 鈥� Nina
Iwan Llyr Jones oedd hwnna鈥檔 s么n am y sylw gafodd e ar TiK ToK ar i鈥檞 bartner bostio鈥檙 seremoni dinasyddiaeth Maori ar Tik Tok.
Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Nina Evans Williams yr wythnos diwetha. Llwyddodd Nina i ennill cystadleuaeth addurno cacennau Salon Culinaire yn Llundain yn ddiweddar. Ynys M么n oedd yr ysbrydoliaeth dros ei haddurniad a buodd Nina鈥檔 s么n wrth Shan Cothi sut aeth hi ati i gynrychioli鈥檙 Ynys ar ei chacen...
Addurno To decorate
Yn ddiweddar Recently
Cynrychioli To represent
Ysbrydoliaeth Inspiration
Teyrnged Tribute
Golygfeydd hardd Lovely scenery
Arfordir Coastline
Goleudy Lighthouse
Tonnau Waves
Pigion Dysgwyr 鈥� Elin Angharad
Ac o un artist at artist arall. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y grefftwraig lledr o ganolbarth Cymru Elin Angharad. Mae gwaith celf wedi bod o ddiddordeb mawr i Elin ers pan oedd hi鈥檔 ifanc. Buodd hi鈥檔 astudio cwrs celf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac erbyn hyn mae hi wedi cychwyn busnes ei hunan yn dylunio a chreu cynnyrch lledr ym Machynlleth. Dyma hi鈥檔 s么n am draddodiad crefft ei theulu
Dylunio To design
Lledr Leather
Gwneuthurwr dreser Cymreig Welsh dresser maker
Anghyffredin Unusual
Diwydiant cig Meat industry
Lladd-dai Abattoirs
Cymhorthydd Assistant
Cymharol fach Relatively small
Gwledig Rural
Dio鈥檓 bwys Does dim ots
Pigion Dysgwyr 鈥� Kamalagita
Elin Angharad oedd honna ar Beti a鈥檌 Phobol yn s么n am ei theulu ac am ei gwaith yn dylunio a chreu cynnyrch lledr.
Yr wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda Kamalagita Hughes o Dreorci. Dysgodd Kamalagita Gymraeg ar 么l un noson fythgofiadwy mewn clwb yn y de, ble roedd band Cymraeg yn chwarae. Dyma hi i s么n mwy am y noson honno鈥�.
Bythgofiadwy Unforgettable
Egni Energy
Diwylliant Culture
Ieuenctid Youth
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
