Main content

Bardd Mis Awst Buddug Watcyn Roberts

Bardd Mis Awst Buddug Watcyn Roberts

Barbie Bragdy Boduan

Ydi Barbie yma ym Moduan?
鈥楧i hi鈥檔 gwbod am Gymru - gwlad y g芒n?
Geith hi alw fama鈥檔 鈥榟afan鈥�?
A 诺yr hi sut mae cynnau t芒n?

Gath hi鈥檌 magu mewn hen ffermdy鈥檔
fwd a llaid gerllaw y lli?
鈥楧i hi鈥檔 rhan o gynaeafu
Gwerth a gwae鈥檔 bodolaeth ni?

Oes 鈥檔a groeso i Barbie yma鈥檔 Nghymru?
Canwn fawl i Forfudd a Dyddgu,
Felly pam ddim Barbie?
Ond cwestiwn arall, gwell sydd gen i-
Ydi Barbie yn barddoni?

Dwi鈥檔 si诺r iawn ei bod hi,
Ma鈥檌 bendant yn gallu,
Yndi, ond dim ond iddi gyfaddef 鈥� mai
Ken sydd yn rhagori.

鈥橣alle鈥檌 bod hi yma鈥檔 cystadlu!
Wele鈥檙 dorf yn dod yn llu,
Wele bawb yn dod i syllu,
Ond syllu ar ei harddwch hi.

A oes croeso brwd i Barbie
yn y Bragdy bonedd hwn?
Yr oll a fynn y ddol ddelfrydol
Yw ei rhyddid hithau鈥檔 么l.
Grym holl ryddid canu caeth,
Grym a hawliau ei chenhedlaeth.

A gaiff, dybed, gamsillafu?
Caniatad i wneud mist锚c,
Rhwng y berfau, treiglo, ac arddodiaid鈥�
Mae pawb yn haeddu br锚c!

Ond nid un Barbie鈥檔 unig sydd yng Nghymru,
mae na fwy na choeliwch chi,
A phob un sydd yn barddoni
Ac yn trio ffeindio鈥檌 llwyfan hi.

Mae hi yma, yn ei nifer
Pan wyt ti a fi yn hawlio鈥檔 hyder;
Ar lwyfan byd o lwydni llaith-
Dan ni鈥檔 chwa o liw a gobaith.
A dwi鈥檔 si诺r, ym mer fy esgyrn
fod na ferched yn fan hyn
fod 鈥榥a Farbie yma o hyd,
A鈥檙 hyn dwi鈥檔 w鈥檅od 鈥檋efyd
Waeth beth a welan nhw pan dan ni鈥檔 gwenu,
Dan ni鈥檔 lot, lot mwy na lliw ein gwallt ni.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

8 o funudau