Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 19eg 2023
Podlediad Newydd, Tomatos, La Liga, Fflemeg, Daeargryn, Clwb Ifor Bach, Ysgol Penweddig
Pigion Dysgwyr 鈥� Podlediad I Fyfyrwyr
Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae鈥檙 ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o鈥檙 enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn.
Rhyddhau To release
Darpar-fyfyrwyr Prospective students
Rhannu profiadau Sharing experiences
Gwerthfawr Valuable
Cyflwyno To present
Teimlo鈥檔 gartrefol Feeling at home
I ryw raddau To some extent
Yn gwmws Yn union
Rhinwedd Merit
Mewnwelediad Insight
Trawstoriad eang A wide cross-section
Pigion Dysgwyr 鈥� Tomatos
Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn.
Ychydig wythnosau yn 么l ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn 么l ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o鈥檙 sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha鈥�.
Her A challenge
Teimlo fel oes Feels like ages
Crasboeth Scorched
Yn y cnawd In the flesh
Awdurdod Authority
Pencampwyr Champions
Carotsen Moronen
Llawn cystal Just as good
Iseldiroedd Netherlands
Chwerw Bitter
Pigion Dysgwyr 鈥� Fflemeg
Wel pwy fasai鈥檔 meddwl mai rhywun o鈥檙 Iseldiroedd sy鈥檔 gyfrifon am liw oren moron, on鈥檇 ife!
Iseldireg wrth gwrs yw iaith y wlad honno, ond mae hi hefyd yn cael ei siarad mewn rhan o Wlad Belg sef Fflandrys.
Ac yn Fflandrys yn ddiweddar mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud Iseldireg yn unig iaith yr iard ysgol.
Mae鈥檙 Dr Guto Rhys, yn byw ac yn magu ei blant yn Fflandrys a dyma fe i esbonio mwy am y sefyllfa ar Dros Ginio bnawn Mawrth鈥︹��
Cenhedlaeth Generation
Tafodieithoedd Dialects
Cymhleth Complicated
Pryder A concern
Gorfodi To compel
Tybio To presume
Anniddigrwydd Discontent
Anghyfleus Inconvenient
Iaith leiafrifol Minority language
Iaith rymus A powerful language
Pigion Dysgwyr 鈥� Bethan Rhys Roberts
Hanes sefyllfa gymhleth ieithoedd Gwlad Belg yn fanna gan Dr Guto Rhys.
Mae鈥檔 wythnos a hanner bellach ers i ddaeargryn nerthol daro dinas Marrakech ac ardaloedd cyfagos. Un oedd yn y ddinas ar y pryd oedd Bethan Rhys Roberts, un o newyddiadurwyr 麻豆社 Cymru. Dyma hi ar raglen Bore Sul yn esbonio beth ddigwyddodd ar yr union eiliad pan darodd y daeargryn鈥︹��
Daeargryn nerthol A powerful earthquake
Hynafol Ancient
Strydoedd culion Narrow streets
S诺n byddarol A deafening noise
Dychrynllyd Frightening
Ymgynnull To congregate
Llafnau Slabs
Dymchwel To collapse
Sgrialu Scrambling
Anhrefn Disarray
Yn reddfol Instinctively
Pigion Dysgwyr 鈥� La Liga
Ac yn drist iawn wrth gwrs buodd miloedd o bobl farw ym Morocco yn dilyn y daeargryn. Bethan Rhys Roberts yn fanna yn rhoi syniad i ni o鈥檙 sefyllfa ddychrynllyd ym Marrakesh.
Mae t卯m p锚l-droed pentre Llanfairpwll ar Ynys M么n wedi cael noddwyr newydd ar gyfer y tymor newydd. Mi fydd enw鈥檙 gynghrair Sbaenaidd - LaLiga - ar flaen crysau'r chwaraewyr eleni. Ie wir, darn o Espa帽a ar dir Ynys M么n.
Hannah Thomas ydy ysgrifennydd y t卯m, a dyma hi i esbonio mwy ar Dros Frecwast fore Mercher
Noddwyr Sponsors
Ysgrifennydd Secretary
Yn raddol Gradually
Pwyllgor Committee
Manteision Advantages
Hogia Bechgyn
Diolchgar Thankful
Denu To attract
Pigion Dysgwyr 鈥� Clwb Ifor Bach
Wel dyna ni, tybed fyddwn ni鈥檔 gweld Llanfairpwll yn chwarae yn erbyn Barcelona neu Real Madrid yn y dyfodol!
Dych chi wedi ymweld 芒 Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd erioed? Sefydlwyd y clwb bedwar deg o flynyddoedd yn 么l er mwyn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg chwarae, a hefyd fel man ble gallai siaradwyr Cymraeg y Brifddinas ddod i gymdeithasu. Nos Sul darlledwyd rhaglen i nodi y garreg filltir bwysig, hon ac mae cyfle wrth gwrs i chi wrando ar y rhaglen gyfan ar 麻豆社 Sounds鈥�..
Llwyfan A stage
Darlledwyd Was broadcast
Carreg filltir Milestone
Sylfaenwyr Founders
Cyfeddach Companionship
Hwb cymdeithasol Social hub
Sefydliad Establishment
Cynhyrchydd Producer
Pigion Dysgwyr 鈥� Rhys Taylor
Sefydliad arall oedd yn dathlu carreg filltir arbennig oedd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a dathlu pumdeg o flynyddoedd ers ei sefydlu oedd yr ysgol hon. Cafodd y cerddor Rhys Taylor sgwrs gyda Caryl Parry Jones wythnos diwetha gan fod Rhys yn gyn-ddisgybl yr ysgol. Nos Sadwrn roedd e鈥檔 un oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Nghanolfan y Celfyddydau y dre fel rhan o鈥檙 dathliadau
Cerddor Musician
Breintiedig Privileged
Oes euraidd Golden age
Preswyl Residential
Cerddorfeydd Orchestras
Brolio To boast
T鈥檓od Rwyt ti鈥檔 gwybod
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
