Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 23ain o Ionawr 2024.
Monte Cassino, Euros Lyn, Antarctica, Yr Het, Dysgu Cymraeg, Nofio Gwyllt
Pigion Dysgwyr 鈥� Anne Uruska
Wythnos diwetha roedd hi鈥榥 80 mlynedd ers brwydr Monte Cassino yn yr Eidal. Un fuodd yn brwydro ar ran y fyddin Bwylaidd yn erbyn yr Eidalwyr a鈥檙 Almaenwyr, oedd tad Anne Uruska o Aberystwyth. Roedd Stanislaw Uruski yn rhan o gatrawd fuodd yn brwydro rhwng Napoli a Rhufain am fisoedd lawer. Dyma Ann i s么n am hanes ei thad鈥�.
Byddin Pwylaidd Polish Army
Catrawd Regiment
Brwydro To fight
Hanu o To haul from
Cipio To capture
Gwlad Pwyl Poland
Dengid Dianc
Rhyddhau To release
Mewn dyfynodau In exclamation marks
Y Dwyrain Canol The Middle East
Pigion Dysgwyr 鈥� Esgusodwch Fi
Anne Uruska yn fanna鈥榥 s么n am hanes diddorol ei thad, ac mae鈥檔 si诺r bod llawer ohonoch chi鈥檔 nabod Anne fel un o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth.
Gwestai diweddar y podlediad Esgusodwch Fi, sydd yn trafod materion sydd yn berthnasol i鈥檙 gymuned LGBT+, oedd y cyfarwyddwr ffilm Euros Lyn. Mae Euros wedi cyfarwyddo Dr Who, Happy Valley, Torchwood, Sherlock yn ogystal 芒 nifer o gyfresi eraill. Dyma fe i s么n am un o鈥檌 brosiectau diweddara sef Heartstopper i Netflix鈥�.
Cyfarwyddwr Director
Cyfresi Series
Diweddara Most recent
Dau grwt Dau fachgen
Eisoes Already
Ehangach Wider
Cenhedlaeth Generation
Profiad Experience
Yn ddynol Human
Hoyw Gay
Pigion Dysgwyr 鈥� Antarctica
Euros Lyn oedd hwnna鈥檔 s么n am y gyfres Heartstopper sydd i鈥檞 gweld ar Netflix.
Does dim llawer o bobl sy鈥檔 gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn Antarctica. Ond un sydd wedi bod yno yw y biolegydd morol Kath Whittey, a buodd hi鈥檔 siarad am y profiad ar raglen Aled Hughes fore Mawrth diwetha鈥�.
Biolegydd morol Marine biologist
Llong Ship
Cynefin Habitat
Anghyfforddus Uncomfortable
Sb茂ad Edrych
Pigion Dysgwyr 鈥� Diwrnod Cenedlaethol yr Het
Mae Kath yn gwneud i Antartica swnio fel planed arall on鈥檇 yw hi?
Roedd Dydd Llun yr wythnos diwetha yn ddiwrnod cenedlaethol yr het. Un sydd a chasgliad sylweddol o hetiau yw Angela Skyme o Landdarog ger Caerfyrddin. Dyma hi鈥檔 sgwrsio gyda Shan Cothi am y casgliad sydd ganddi
Casgliad sylweddol A substantial collection
Cael gwared To get rid
Hen dylwyth Old family
Menyw Dynes
Drych Mirror
Pigion Dysgwyr 鈥� Clare Potter
A dw i鈥檔 si诺r bod Angela鈥檔 edrych yn smart iawn yn ei hetiau.
Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA o Brifysgol Mississippi mewn Llenyddiaeth Affro-Garib茂aidd.
Mae Clare wedi cyfieithu gwaith y bardd Ifor ap Glyn i鈥檙 Saesneg ac mae hi wedi bod yn Fardd y Mis Radio Cymru.
Mae'n dod o bentref Cefn Fforest ger Caerffili yn wreiddiol a Saesneg oedd iaith y cartref a'r pentref. Cafodd hi ei hysbrydoli gan athro Cymraeg Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd hi gyda Beti George
Llenyddiaeth Literature
Bardd Poet
Ysbrydoli To inspire
Mam-gu Nain
Emynau Hymns
Rhegi To swear
O dan y wyneb Under the surface
Ffili credu Methu coelio
Braint A privilege
Pigion Dysgwyr 鈥� Nofio Gwyllt
Beti George yn fanna鈥檔 sgwrsio gyda clare e. potter ar Beti a鈥檌 Phobol ddydd Sul diwetha.
Owain Williams oedd gwestai rhaglen Shelley a Rhydian ddydd Sadwrn ar gyfer slot newydd o鈥檙 enw Y Cyntaf a鈥檙 Ola. Owain yw cyflwynydd cyfres newydd ar S4C o鈥檙 enw Taith Bywyd sydd ar ein sgriniau ar hyn o bryd. Yn Llundain mae e鈥檔 byw a dyma fe鈥檔 s么n wrth Shelley a Rhydian am y nofio gwyllt mae e鈥檔 ei wneud鈥�.
Degawdau Decades
Llynnoedd Lakes
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
