Main content

Ffion Emyr yw gwestai Meinir yr wythnos hon. Byddwn hefyd yn clywed gan Si么n o brosiect cymunedol GwyrddNi a Lowri sydd am droi ei hoffter o dyfu blodau i fusnes.

Ffion Emyr sy鈥檔 ymuno 芒 Meinir i drafod ei gardd fodern yng nghanol tref Caernarfon. Yn brosiect ddaru Ffion ymgymryd yn ystod 2020 tra oedd Ffion a鈥檌 phartner adref, pa ffordd well i wario鈥檙 cyfnod clo nac i weithio ar yr ardd? Elfen bwysig oedd datblygu mannau er mwyn adlonni ffrindiau a theulu ac i gael rhywle addas (a gwahanol) i fwyta brecwast, cinio a swper yn yr ardd. Mae鈥檙 ardd hyd yn oed wedi ennill gwobr yr ardd orau yng Nghaernarfon.

Gan fod Ffion yn disgwyl babi a鈥檙 nythu wedi cicio i mewn go iawn - mae hi hyd yn oed wedi bod yn dystio鈥檙 sied a hwfro鈥檙 glaswellt (oes, mae ganddi laswellt ffug ac os oes unrhyw un yn cael maddeuant am hynny, Ffion ydi鈥檙 un!). Oes lle iddi addasu鈥檙 ardd yn y blynyddoedd i ddod er mwyn gwneud yr ardal yn fwy 鈥榗hild friendly鈥� ac wrth feddwl am y dyfodol, ydi Ffion am fentro i dyfu fwy o鈥檌 chynnyrch ei hun?

Fe fyddwn ni hefyd yn clywed gan Si么n sy鈥檔 trafod prosiect GwyrddNi sy鈥檔 fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Mae鈥檙 prosiect yn rhedeg amrywiaeth o weithgareddau garddio cymunedol ac wedi helpu sefydlu rhandiroedd yn ardal Dyffryn Nantlle.

Lowri sy鈥檔 sgwrsio am droi ei hoffter o dyfu blodau mewn i fusnes. Wrth ddod mewn i鈥檞 hail dymor tyfu eleni mae Lowri yn trafod dod yn fwy ymwybodol o gost prynu blodau sydd wedi eu mewnforio.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

33 o funudau

Podlediad