Main content

Dafydd Iwan sy鈥檔 ymuno gyda Meinir i drafod tyfu llysiau a hel atgofion am arddio yn ei blentyndod. Dafydd Iwan joins Meinir to talk about his passion for growing vegetables.

Dafydd Iwan sy鈥檔 ymuno gyda Meinir i drafod tyfu llysiau yn yr ardd. Yn ddiddordeb sydd wedi dod yn fwy amlwg iddo dros y deng mlynedd diwethaf, mae鈥檔 cael boddhad o ailgysylltu gyda natur. Mae codi yn y bore i weld be sydd wedi egino yn un o bleserau mawr bywyd bellach.

Yn y bennod yma, mi fydd Dafydd yn hel atgofion am ei blentyndod ac am ei ddiweddar frawd, Huw a鈥檙 r么l oedd garddio yn ei gymryd ym mywydau aelodau blaenllaw'r teulu.

Cawn hefyd glywed gan Sam sy鈥檔 rhedeg gardd farchnad Llysiau Menai ar Ynys M么n. Yno, mae鈥檔 tyfu cynnyrch tymhorol ar ddarn o dir dros acer. Fel bachgen ifanc, fuodd o鈥檔 tyfu a鈥檔 garddio efo鈥檌 deulu cyn gweithio ar sawl fferm llysiau ac yna sefydlu ei ardd farchnad ei hun.

Lleu sy鈥檔 trafod tyfu ar ei randir yng Nghaerdydd. Fe gychwynnodd garddio ar y tir tua 10 mlynedd yn 么l a鈥檔 defnyddio dulliau traddodiadol o droi'r tir, ond ar 么l datblygu poen cefn fe aeth ati i ymchwilio鈥檙 dull di-bal (no dig).

Meinir sy鈥檔 mynd ati i ateb un o鈥檆h cwestiynau chi, gydag un o wrandawyr y podlediad yn holi am awgrymiadau o blanhigion sy鈥檔 gwrthsefyll cyfnodau hir o sychder. Ym Mhant y Wennol, mae鈥檙 nepeta yn ffynnu mewn cyfnodau sych.

Ar y rhestr o jobsys yn yr ardd wythnos yma, mae鈥檙 lafant angen ei dorri鈥檔 么l (gyda鈥檙 gobaith o ddefnyddio鈥檙 blodau mewn bisgedi Berffro!).

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

34 o funudau

Podlediad