Main content

Dwi'n licio'r positifrwydd 'ma!

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n gweld digon o reswm i gyffroi am y tymor wrth i glybiau Cymru berfformio'n dda a gwario ar chwaraewyr newydd.

Am y tro cyntaf ers sbel, mae gan y criw ddigon o reswm i deimlo'n obeithiol am obeithion clybiau Cymru. Yn ogystal 芒 chanlyniadau addawol, mae Abertawe wedi cryfhau'r garfan gan wario'n sylweddol ar chwaraewyr newydd am y tro cyntaf ers tro. Ac er nad ydi canlyniadau Wrecsam wedi bod cystal, does dim posib cwestiynu鈥檙 uchelgais wrth i'w gwariant nhw dros yr haf fynd heibio 拢30m.

Mae Caerdydd hefyd wedi synnu nifer drwy arwyddo Omari Kellyman ar fenthyg - chwaraewr canol cae symudodd i Chelsea am 拢19m y llynedd. A phrin fod cefnogwyr yn gallu cwyno efo'r perfformiadau ar y cae wrth i'r Adar Gleision godi i frig Adran Un. Dydi pethau ddim cystal yng Nghasnewydd, ond dyddiau cynnar ydi hi i'r rheolwr newydd Dave Hughes...

Ac wrth gwrs, mae gan Gymru daith hir i Kazakstan ar gyfer g锚m ragbrofol Cwpan y Byd 2026. Ydi diffyg munudau rai o amddiffynwyr Cymru am greu penbleth i'r rheolwr Craig Bellamy?

Release date:

3 months left to listen

53 minutes

Podcast