Dwrn gan Jan Molby
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod os ydi hi dal yn rhy gynnar yn y tymor i gymryd sylw o safleoedd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn y tabl.
Wrth i Abertawe nesu at safleoedd ail-gyfle y Bencampwriaeth diolch i fuddugoliaeth oddi cartref yn Blackburn, mae'r criw yn trafod os ydi dal yn rhy gynnar yn y tymor i gymryd unrhyw sylw o safleoedd ein clybiau yn y tabl. Wedi pedair g锚m gartref, dal i ddisgwyl am fuddugoliaeth ar y Cae Ras mae Wrecsam - fydd hynny'n newid gydag ymweliad Birmingham nos Wener?
A s么n am ganlyniadau siomedig gartref, beth yn y byd ddigwyddodd i Gaerdydd yn erbyn Burton Albion, oedd ar waelod Adran Un ar gychwyn y g锚m? Parhau mae problemau enbyd Casnewydd - oes unrhyw arwyddion bod gan y rheolwr Dave Hughes atebion i atal rhediad o naw colled mewn 10 g锚m.
Ac ar 么l i amddiffynnwr Arsenal rhywsut lwyddo i osgoi unrhyw gosb am ddyrnu Nick Woltemade, mae gan Mal ac Ows atgofion o dderbyn dwrn neu benelin slei ar y cae.
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd p锚l-droed yn ei le.