Gwen y Wrach a Fi
Gwenllian Ellis sy鈥檔 darganfod mwy am Gwen ferch Ellis, y wrach a gafodd ei chrogi. Gwenllian Ellis finds out more about Gwen ferch Ellis, the first Welsh witch to be executed.
Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgw芒r Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru.
Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig, y swynwraig a鈥檙 iachawraig, a pham rhoi鈥檙 gosb eithaf iddi.
O ymweld 芒 sgw芒r Dinbych lle dreuliodd hi ei heiliadau olaf, i鈥檙 Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle mae cofnodion llys Gwen yn cael eu cadw, i Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy lle casglodd tystion i roi tystiolaeth yn ei herbyn, mae Gwenllian yn dod i ddeall mwy am stori Gwen a beth mae ei hanes yn ei ddweud wrthi am fod yn ferch heddiw.
Ar ei thaith mae鈥檔 cael cwmni Holly Gierke, Ruth Williams, Dr Gareth Evans Jones, Dr David Moore a Si芒n Melangell Dafydd.
Cyflwynydd: Gwenllian Ellis
Cynhyrchydd: Anna George
Sain: Richard Durrell
Podlediad
-
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!