Main content

Dafydd Roberts

Heledd Cynwal yn holi y cerddor ac aelod o fand Ar Log, Dafydd Roberts, am ei atgofion cyntaf. Sh芒n Cothi interviews musician Dafydd Roberts about his first memories.

Y cerddor ac aelod o fand Ar Log, Dafydd Roberts, sy鈥檔 sgwrsio gyda Heledd Cynwal am ei atgofion cyntaf: ei gartref cyntaf yn Llwyngwril; torri top ei fys gyda bwyell ar ddamwain fel plentyn bach; yr arogl o wresogydd paraffin oedd yn golygu fod Nadolig yn nes谩u; gwrando ar ei fam yn ymarfer canu wrth orwedd o dan y piano; ei swydd gyntaf o weini petrol mewn garej; colli cyfweliad cwrs hyfforddi dysgu ar gyfer cyngerdd Ar Log yn Llundain; a chyngerdd cyntaf erioed Ar Log gyda鈥檙 Dubliners. Darlledwyd yn wreiddiol ar raglen Fore Cothi, 麻豆社 Radio Cymru, fis Ionawr 2026.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

19 o funudau

Dan sylw yn...