Main content
Calan Mai - Bardd y Mis: Iwan Tomos Kellett
Calan Mai
Mae'r curiad ar y draethell hon
ym mordwy meddal araf don.
Yn sisial y crisialau p锚r
o gerrig m芒n, a鈥檙 gwymon bl锚r.
Yn anadl eithin melyn-las
bob yn ail melysaidd flas,
yn pigo, ond yr amser iawn
i guro hefo'r curiad llawn.
Fe'i clyw yng ngh芒n y gwcw lon
yn neidio draw o'r flwyddyn gron
i diwnio tannau telyn bod
wrth nesu anterth blaena'r rhod.
Fe'i gweli yng nghyfeilio'r tarth
wrth fwytha'r bore, cwm a garth,
yn llusg yr haul wrth groesi'r llawr
i atsain dyddiau llewyrch mawr.
Oni theimli dithau hefyd
curiad Mai yn goddiweddyd.
'R么l hirymaros am ddychwelyd
O pl卯s! 'Rhosa fwy nag ennyd.