Main content

Cerdd yr Wythnos - Myrddin ap Dafydd

Dim Ond

Dim ond

yr hanes a sgwennwn ni

gaiff ei rannu gyda chi

Dim ond

y llyfrau sydd at ein dant

gaiff eu darllen gan y plant

Dim ond

papurau nad ydyn nhw鈥檔 wir

gaiff ei llosgi wrth lyfrgell y sir

Dim ond

y bardd sy鈥檔 cau ei geg

gaiff gan y llys wrandawiad teg

Dim ond

cysgod o dd眉wch y glyn

dim ond dechrau ydi hyn

Myrddin ap Dafydd

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

41 eiliad