Main content

Cerdd yr Wythnos - Ifan Prys

Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth

Rhun ap Iorwerth

Hwn yw Rhun, Rhun a鈥檌 arweiniad o F么n

i Fynwy鈥檔 ddieithriad;

Rhun nerthol mewn etholiad;

Rhun y glew yn arwain gwlad.

Gwlad, gwlad, pleidiol yw鈥檔 gwleidydd, yn genedl

down i ganu鈥檌 glodydd;

Rhun y triw, Rhun ein trywydd

am yr haul i鈥檙 Gymru rydd.

Cymru rydd fydd Cymru Rhun, Cymru deg,

Cymru鈥檙 dweud, nid gofyn;

dychwel wnaeth pabi melyn

i鈥檞 herwau hi. Hwn yw鈥檙 un!

Ifan Prys

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

52 eiliad