Main content

Marwolaeth Julie Clarke

Y cyn-farnwr Nic Parry yn ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf cymhleth a dadleuol Cymru, gan ail-fyw’r hanes, y gyfraith a’r cwestiynau sy’n parhau.

Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder.

Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?

Yn y bennod hon, cyn-ohebydd newyddion Âé¶¹Éç Cymru, Marian Wyn Jones, sy’n olrhain hanes marwolaeth Julie Clarke oedd yn ferch ifanc 17 oed a ddiflannodd o Fangor ym mis Mawrth 1984.

Roedd ei diflaniad, a’r ymdrech fu i’w chanfod, yn ddechrau un achosion troseddol mwyaf Gogledd Cymru.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

28 o funudau

Dan Sylw

  • .

Podlediad