Main content

Enfys Hatcher - enillydd Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2026

Enfys Hatcher (Tafarn Y Vale) yw enillydd Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2026 - am delyneg orau'r gyfres. Testun y delyneg yw 'Gweithdy' ac mae鈥檙 delyneg yn darlunio鈥檔 gynnil iawn natur galar a hiraeth ar 么l colli tad. Dwynwen Llywelyn sy鈥檔 darllen y gerdd.

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gweithdy
Twriaf yn y pic-a-mics
o sgriwiau a bolltiau
yn nroriau鈥檙 cawdel.

Bydd e 鈥榤a rhywle...

Arogl weldio鈥檔 dew,
yn glynu i 鈥榥illad,
anhrefn cyfarwydd
y silffoedd yn fy meddwi.

Mae e 鈥榤a rhywle...

Mygiau gwag
yn rhes ar ffenest,
芒鈥檙 olion olew鈥檔 bodio鈥檙 cof.

Eisteddaf
ar hen focs-t诺ls,
ac yng ngwres y sbarcs,
yn s诺n y morthwyl,
yn atsain ddoe
...rhywle, mae e 鈥榤a.

Dwynwen Llywelyn yn darllen gwaith Enfys Hatcher

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

41 eiliad