麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,19 Nov 2017,30 mins

Series Cyfres 3

13/11/2017

Cymry 1914-1918

Available for over a year

Cyfres sy'n defnyddio dyddiaduron, llythyron ac atgofion i gyflwyno Cymry'r Rhyfel Mawr. William Griffith Pritchard sy鈥檔 eistedd yn y llun gyda 2 o鈥檌 gyd-filwyr. Aeth William Griffith Pritchard ar goll ar 么l cael ei glwyfo ym Mrwydr Cambrai ar Dachwedd 21, 1917. Roedd yn bobydd llwyddianus ym Mhenygroes ger Caernarfon. Fe oedd perchennog 鈥楢rvonia Bakery鈥�. Yn haf 1917, cafodd orchymyn i ymuno 芒鈥檙 fyddin, ychydig fisoedd ar 么l priodi, ac yn edrych ymlaen at fod yn dad am y tro cyntaf. Ym mis Tachwedd roedd yng nghanol brwydr Cambrai lle defnyddiwyd tanciau am y tro cyntaf. Aeth ar goll ar 么l cael ei glwyfo. Fis wedyn, ganwyd William, ei blentyn cyntaf. Am 4 mis, bu ei wraig, Harriet Ann Pritchard, yn ysgrifennu llythyr ar 么l llythyr yn gofyn am wybodaeth am ei gwr. Roedd y llawenydd a ddaeth gyda genedigaeth mab yn gymysg 芒 gofid llethol am ei gwr. Ym mis Ebrill 1918 a William yn 4 mis oed, cafodd lythyr yn cadarnhau bod disgiau adnabod ei gwr wedi eu rhoi i fyddin yr Almaen a鈥檌 fod wedi ei ladd yn ystod frwydr Cambrai. Mae William, mab William Griffith a Harriet Ann Pritchard yn gant oed fis nesa鈥�. 100 mlynedd ers marwolaeth y tad na welodd yn siarad amdano yn y rhaglen.

Programme Website
More episodes