Episode details

Available for over a year
Beti George sydd yn holi Iwan Teifion Davies, arweinydd cerddorol a phianydd o Gymru sy鈥檔 ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth glasurol a鈥檙 opera yng Nghymru a thu hwnt. Fe ddaw yn wreiddiol o Landudoch a fe oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Fe aeth i Goleg Emmanuel yng Nghaergrawnt i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae bellach yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth ers 2021, ac mae鈥檔 arwain cerddorfa Philomusica of Aberystwyth. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth ers 2023 ac yn Bennaeth Cerdd ar 糯yl Ryngwladol Buxton yn Swydd Derby.
Programme Website