Episode details

Available for 29 days
Yn y rhaglen hon, straeon pedwar o unigolion o gefn gwlad Cymru sydd wedi serennu ym myd chwaraeon. Sara Elan Jones sy'n ymweld â Llanbedr-Pont-Steffan i gwrdd ag Anwen Butten, sydd wedi arwain ei gwlad yn y byd bowls. Hefyd, Mared Griffiths o Drawsfynydd sy'n sôn am ei magwraeth ar y fferm deuluol, a serennu yn y byd pêl-droed fel rhan o dîm Manchester United, a Chymru. Lois Cernyw sy'n ymweld â'r chwaraewraig rygbi rhynglwadol o Badog ger Betws-y-Coed, Gwenllian Pyrs gan drafod ei gyrfa ddifyr. A Megan Williams sy'n sgwrsio gyda Rhodri Gomer Davies, y cyn-chwaraewr rygbi sydd bellach yn herio'i hun mewn ffyrdd gwahanol.
Programme Website