麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,20 Sep 2026,56 mins

Sharon King

Beti a'i Phobol

Available for 3 days

Mae Sharon King yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gefndir helaeth mewn ymarfer milfeddygol, ar 么l graddio mewn Gwyddoniaeth Anatomegol o Brifysgol Bryste ac ennill gradd BVetMed o Goleg Milfeddygol Brenhinol Llundain. Cafodd ei chydnabod yn genedlaethol yn 2026 pan enillodd Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA Veterinary Mentor Award) am ei chyfraniad eithriadol at fentora a chefnogi myfyrwyr a chydweithwyr yn y proffesiwn milfeddygol. Cafodd ei chanmol am ei thosturi, ei chefnogaeth bersonol, a鈥檌 hymrwymiad i feithrin hyder a datblygiad proffesiynol y genhedlaeth nesaf o filfeddygon. Mae hi hefyd yn gweithio fel milfeddyg 1 diwrnod yr wythnos yn Aberystwyth, ac yn fam i 2 o blant. Sharon oedd y ferch gyntaf i weithio fel milfeddyg yn Nolgellau, ac mae hi'n cofio'n glir cyfnod clyw traed ar genau yn 2001, " mae dal yn fyw yn y cof" a'i effaith ar ffermwyr Cymru. Cawn hanesion difyr ei bywyd, ac mae hi hefyd yn trafod yn agored cyfnodau o iselder mae hi wedi eu profi a sut mae ei ffydd Gristnogol wedi bod o gymorth. Mae ganddi ambell stori ddoniol o'i chyfnod fel milfeddyg ac fe glywn am hanes Oscar y crwban sydd ganddi sy'n 90 mlwydd oed! Fe fydd Sharon hefyd yn dewis 4 c芒n, Anfonaf Angel, Rhys Meirion a Pharti Cut Lloi yn canu 鈥淒么l y Maen鈥�.

Programme Website
More episodes

Tracklist

  1. Track
    Artist
  2. 1.
    Grym y Lli
    Grym y Lli
    Parti Cut Lloi
  3. 2.
    Anfonaf Angel
    Anfonaf Angel
    Rhys Meirion
  4. 3.
    Ceidwad Y Goleudy
    Ceidwad Y Goleudy
    Bryn F么n
  5. 4.
    Gwahoddiad
    Gwahoddiad
    John Jenkins, The Treorchy & Morriston Orpheus Choirs