Âé¶¹Éç

Use Âé¶¹Éç.com or the new Âé¶¹Éç App to listen to Âé¶¹Éç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,04 Oct 2026,27 mins

Myfyrwyr newydd Coleg Glynllifon

Troi'r Tir

Available for 30 days

Ar ddechrau blwyddyn addysgol newydd, sgwrs gyda rhai o fyfyrwyr newydd Coleg Glynllifon, ynghyd â'u darlithydd Esmor Wyn Hughes am eu gobeithion am y dyfodol, a'u profiadau ar y cwrs hyd yma. Sara Elan Jones sy'n ymweld ag Eglwys y Santes Fair yn Llanllwch ger Caerfyrddin i glywed mwy am gynllun EcoEglwys, sy'n helpu capeli ac eglwysi i ystyried materion amgylcheddol, gofalu am y tir a bywyd gwyllt, lleihau'r defnydd o ynni, ymgysylltu â'r gymuned ehangach, a llawer mwy. Ymysg y siaradwyr mae'r Parchedig Ann Howells, Helen Thomas, aelod o bwyllgor yr Eglwys, a Delyth Higgins, Swyddog EcoChurch i Gymru. Hefyd, stori Mared Jones, yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, sydd wedi agor siop win gyda'i gŵr yn nhref Crughywel. Y gyfreithwraig Awel Mai Hughes sydd â'r newyddion diweddaraf o ran y polisiau a'r grantiau amaethyddol, a sgwrs gydag Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen am gyfrol newydd sbon ar y gyfres Cefn Gwlad, sy'n cael ei chyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon. Cynhyrchiad cwmni Telesgop i Âé¶¹Éç Radio Cymru.

Programme Website
More episodes