Episode details

Available for over a year
Dwi bron a syrffedu ac yn llwyr ddifaru Cytuno dod i ’Steddfod Cylch i feirniadu. Ond, er gwaetha’r crigo, mae’n rhaid cofio gwenu A bod yn ofalus o’r hyn fyddai’n sgwennu: “Datganiad unigryw a gwreiddiol o’r gân� (Roedd hon wedi drysu ei geiriau yn lan). “Dehongliad mor gynnil, llefaru o ddifri’� (Mi fyddai’n ddechreuad petaet ti yn gwenu) “Ymdrechaist yn galed i gario brawddegau� (Nes oeddet yn las yn dy wyneb ar brydiau.) “Perfformiad hyderus a’th ffocws yn bendant� (Roedd o’n ceisio dilyn siap ceg ei riant) Dewisiaist ti dempo braidd yn rhy ‘allegro’ (Arafa! Nid ras ydi’r canu ’ma’r lembo) “Defnyddiaist dy wyneb yn wych i ddweud stori� (Rho gynnig ar actio. Ni fedri di ganu.) ’Rôl gwrando ar drigain yn canu’r un alaw Dwi’n torri traddodiad beirniadaeth pob rhagbraw’ Gan beidio a nodi “Dal ati, da ti!� Rhag ofn mai y beirniad tro nesa fydd . . . Fi. Gwenno Davies 8.5
Programme Website