Episode details

Available for over a year
Daeth cnoc ar ddrws y tŷ ’cw: roedd ’na heddwas yn yr ardd. Pe bawn i’n hollol onest, nid oedd o’n greadur hardd. “Excuse me, sir� dywedodd. Mi ges innau hanner ffit: roedd gen i yn fy mathrwm ryw blanhigyn ilejit yn anrheg o Jamaica. “Oh I’m sorry, you mean me?� gofynnais er na welwn yno neb, ’mond fo a fi. Mi chwyswn chwartiau bellach (am ryw reswm, gwisgwn gôt). “Yes, you� oedd geiriau’r plisman. “Do you know who owns this goat?� Dim ond bryd hynny, sylwais, wrth ei gwt yr oedd bwch gafr yn sniffian rownd ei drwnshwn fel petasai’n cynnig ffafr. “We found him on the corner� meddai’r dyn o’r South Wales Force. “Appears to be local. Does it happen to be yours?� Wel nefoedd. “Gwranda washi,� meddwn. “Dw i’m yn ffarmwr, reit? Tydw i’m yn mynd i’r Royal Welsh yn unswydd i gael ffeit...� Yn blaen dywedais wrtho nad y fi oedd biau Bil (mae’n enw gwell ar afr mae’n siŵr na Don neu John neu Jill). Ymlaen yr aeth yr heddwas felly’n ddryslyd lawr y lôn. Amdanyn nhw fyth wedyn hyd y lle ni chlywais sôn, ond os bydd rhai yn holi oes gafr eto ar y tir yn crwydro’r creigiau geirwon heb ei godro – y mae’n wir. Rhys Iorwerth 9.5
Programme Website