Episode details

Available for over a year
Roedd y gantores opera o Gymru, Leila Meg脿ne, yn astudio ym Mharis yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan gafodd wahoddiad gan y Conswl Prydeinig i ganu i鈥檙 milwyr claf yn Ysbyty'r Milwyr Prydeinig, Versailles. Roedd cyflwr a lles y milwyr yn ei gofidio ac roedd yn llythyru鈥檔 rheolaidd gyda thair o'i chwiorydd adref ym Mhwllheli i ddilyn hanes ei brawd Thomas Jones, oedd yn llongwr yn y rhyfel. Er mawr syndod iddi, daeth ar ei draws ar un o'i hymweliadau 芒鈥檙 ysbyty. Doedd hi ddim wedi ei weld ers pedair blynedd. Dywedodd ei bod yn falch iawn o鈥檙 ffaith ei bod hi wedi gallu dod a chydig o fwynhad i鈥檙 milwyr oedd wedi eu clwyfo. Cafodd Leila ei magu ym Mhwllheli lle roedd ei thad yn arolygydd gyda鈥檙 heddlu ac yno y cafodd ei blas cyntaf ar ganu a pherfformio. Mae plac ar wal adeilad y Police House yn y dref yn dweud ei bod wedi ei magu yno ac yn ei disgrifio fel 'Cantores Byd Enwog.' Roedd yn mynd gyda'i mam i gyngherddau yn Neuadd Dwyfor, sef neuadd y dref bryd hynny, i wrando ar gantorion enwog y dydd. Fe gafodd eu perfformiadau ddylanwad mawr ar y ferch fach a dyfodd i fod yn un o leisiau contralto mwyaf cyfoethog y cyfnod. Roedd wedi cael help neb llai na鈥檙 Prif Weinidog David Lloyd George i fynd i Baris i astudio ac yno y dechreuodd hi ddefnyddio鈥檙 enw llwyfan Leila Meg脿ne. Cyn hynny, Margaret Jones oedd hi. Er iddi ganu yn Monte Carlo, Milan, Moscow, Efrog Newydd a Llundain wedi鈥檙 rhyfel yn 么l i Bwllheli y daeth hi i fyw gan gynnal sawl cyngerdd ei hun yn Neuadd Dwyfor wedi hynny. Ilid Anne Jones, awdures y gyfrol 鈥楢nwylyn Cenedl鈥� am fywyd Leila Meg脿ne fu draw yn Neuadd Dwyfor yn siarad amdani. Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE Llun o Leila Meg脿ne ar y llwyfan drwy garedigrwydd y Llyfrgell Genedlaethol
Programme Website