Episode details

Available for over a year
Am reswm wna鈥檌 byth ddallt yn iawn, mi gefais i pwy ddydd y job o fynd ag Anti Dee i siopa yng Nghaerdydd. 鈥淪o what?鈥 mi鈥檆h clywaf chithau鈥檔 dweud, ond wedyn triwch chi ddweud hynny ar 么l awr neu ddwy yng nghwmni Anti Dee. Ac felly, lawr i鈥檙 dre 芒 ni, myfinnau鈥檔 actio鈥檙 gwas: trwy flowsus a thrwy sh诺s a sgerts, mi aeth hi mewn a mas, a cherdded wn芒i yn 么l a mlaen (fel rhywun angen bog) wrth agor pob rhyw gyrten a throi ataf ym mhob ffrog cyn gwneud rhyw dwyrls fel tasai ar y catwalk ym Mharis; yr hen golomen wirion, dyna oll feddyliwn i. Fel hyn y bu am hydoedd: trio gwasgod, trio bra (pan welais ei mynyddoedd, y mae鈥檔 wir, ebychais 鈥淣a!鈥). Mewn tipyn, daeth i stop a dweud 鈥 roedd hyn ar 么l pump awr 鈥 鈥淣a ni di trio popeth, awn ni n么l i鈥檞 prynu nawr鈥. Y fi wrth gwrs yn bortar: ar bob braich roedd pedair sach, a saith ar fy nwy ysgwydd 鈥 ro鈥檔 i鈥檔 gwywo鈥檔 ara bach. O鈥檙 diwedd, troi am adre a ffarwelio 鈥 am ryddhad 鈥 mi glywyd fy ochenaid i mewn cae ym mhen draw鈥檙 wlad. Ond wedyn y drychineb: heddiw鈥檙 bore daeth phone call. Mae鈥檔 galw鈥檙 wythnos nesa er mwyn mynd 芒鈥檙 cyfan n么l. 9.5
Programme Website