麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Cymru,1 min

Castell Bodelwyddan, Sir Ddinbych: Ffosydd ymarfer Gwersyll Parc Cinmel

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Gwersyll hyfforddi ar gyfer milwyr oedd Parc Cinmel yn Sir Ddinbych. Roedd yn rhaid i鈥檙 milwyr aeth drosodd i Ffrainc a Gwlad Belg ddygymod gyda byw yn y ffosydd yn ogystal 芒 dysgu sut i ymladd. Felly cyn iddyn nhw fynd roedd angen hyfforddiant arnyn nhw ac fe sefydlwyd rhwydwaith o wersylloedd milwrol ar draws Prydain er mwyn darparu hyn. Adeiladwyd y gwersyll yn 1914 ac roedd yna linell rheilffordd yn ei gysylltu 芒 gorsaf y Foryd yn y Rhyl. Naws Gymreigaidd iawn oedd ym Mharc Cinmel ar y dechrau gyda llu o filwyr o Gymru yn hyfforddi yno. Roedd y Cadfridog Owen Thomas (un o brif arweinwyr y 鈥榃elsh Army Corps鈥�) yn bennaeth ar y gwersyll am gyfnod. Ond wrth i鈥檙 gwersyll ehangu, ac wrth i鈥檙 rhyfel ei hun ehangu, fe ddirywiodd naws Gymreig y ganolfan. Mae olion rhai o鈥檙 ffosydd ymarfer oedd yn rhan o鈥檙 gwersyll i鈥檞 gweld o hyd ar dir Castell Bodelwyddan. Prif bwrpas y ffosydd ymarfer oedd nid i ddysgu鈥檙 milwyr sut i ymladd, ond i鈥檞 dysgu sut i fyw o ddydd i ddydd mewn ffos 鈥� sut i gloddio ffos, sut i gryfhau鈥檙 amddiffynfedd a gosod systemau cyfathrebu a hyd yn oed sut i baratoi bwyd. Yn y clip sain mae Medwyn Parry o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn esbonio mwy am fwriad a defnydd ffosydd ymarfer Gwersyll Parc Cinmel. Ar ddiwedd y rhyfel fe fu milwyr o Ganada yn byw yn y gwersyll, tra鈥檔 aros i gael eu hanfon adre. Ym mis Mawrth 1919 fe fu yna miwtini wrth i鈥檙 milwyr brotestio yn erbyn yr amodau byw ym Mharc Cinmel. Lleoliad: Tir Castell Bodelwyddan, LL18 5YA Llun trwy ganiat芒d Castell Bodelwyddan.

Programme Website
More episodes