Âé¶¹Éç

Use Âé¶¹Éç.com or the new Âé¶¹Éç App to listen to Âé¶¹Éç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

HIRAETHOG: Cân ysgafn 'Cadw Sgôr'

Y Talwrn

Available for over a year

Mewn swyddfa segur, dywyll, o eiddo'r Âé¶¹Éç, Mae yno gwpwrdd ffeilio, ac ynddo, wir i chi, I lawr yn y drôr gwaelod, 'ny gornel bellaf, ddu, Mae yno lwyth o rifau, a'u pennau yn eu plu, Yn teimlo'n wrthodedig, dibwrpas ac yn drist Am nad yw Ceri’n crybwyll rhif Chwech na’r rhifau is. Eu hunllef yw'r Haneri, gan mai o'u herwydd nhw Mae Chwech a Phump a Phedwar yn gymaint o dabŵ. A Dau a Thri sydd bellach, fel Un yn fythol brudd O wybod na chânt hwythau fyth weled golau dydd. Am hyn, drwy’r drôr, mae enw pob hanner marc fel baw, Aeth Naw yn "9½"; ac Wyth sydd nawr, fel "naw"; Yn lle rhoi Saith, rho'r meuryn ryw "hanner ar ben wyth"; A'i "wyth" ef yn gyfystyr a'r Chwech, o'r cyflawn lwyth. Yn lle rhoi "7½ ", beth am roi Pump ar waith? Ac yna rhoddi Pedwar, yn hytrach na rhoi "saith". Os am roi "6½", rhoi Tri; nid "chwech" ond Dau, A byddai Un mor falch o weld ei gyfle yn nesäu. Er mwyn eu hawl cyfartal, clyw lais eu protest croch, Rho gyfle iddynt, Ceri....., wrth sgorio Criw’r Llew Coch. Gwenno Davies 9

Programme Website
More episodes