Episode details

Available for over a year
Bellach rwy’n un o’r chwiorydd hyll yn torri blaen fy mawd i ffitio’r esgid, a’r lledr gwyn yn goch gan waed. Y lledr coch sy’n dawnsio hyd y sarn o friciau melyn yng nghwmni’r llew, ac yntau â gorchest ei law gyffes yn pwytho twyll i ’sgidiau mam ddialgar. Prin dw i'n cofio’r dyddiau troednoeth cyn y straeon a’m bodiau yn fy nghrud heb gerdded cam. Sian Northey 10
Programme Website