麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Cymru,3 mins

Tabernacl Treforys, Abertawe: Organ a Ffenestri i Gofio'r Milwyr

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

"Y capel mwyaf, y crandiaf a'r drytaf a adeiladwyd yng Nghymru". Dyna ddisgrifiad Anthony Jones o gapel y Tabernacl, Treforys, yn ei lyfr Welsh Chapels. Yn y capel mae un o鈥檙 organau pib mwyaf yng Nghymru a ffenestri lliw hardd a osodwyd i gofio bechgyn y capel a laddwyd yn y Rhyfel Mawr. Cafodd yr organ newydd dair-allweddell o 40 stop gan Hill, Norman & Beard ei gosod yn 1922 a鈥檌 hadfer eto gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 1998. Cafodd y Tabernacl ei gynllunio fel y capel delfrydol o ran pensaern茂aeth, maint a chyfleusterau a'i gwblhau yn yn 1872 ar gost syfrdanol o 拢18,000. Y tu mewn, fe welwch chi waith cywrain y seiri coed mewn pren mahogani, gyda galeri'r c么r yn disgyn yn serth tua'r pulpud a thri chasyn trawiadol i'r organ. Ar 么l bwrlwm Diwygiad 1904 tyfodd aelodaeth y Tabernacl i 1059 o bobl yn 1910 a heddiw mae鈥檙 capel i鈥檞 weld yn aml ar raglenni fel Songs of Praise a Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Mae C么r y Tabernacl, a ffurfiwyd i ddechrau yn 1876, yn un o gorau hynaf Cymru heddiw ac yn dal i roi cyngherddau i gyfeiliant cerddorfa. Bu Penfro Rowlands, cyfansoddwr yr emyn-d么n fyd-enwog Blaenwern, yn arweinydd 1892-1919. Yn y clip yma cawn hanes yr organ a'r ffenestri gan David Gwyn John, ysgrifennydd y capel, a'r organydd Huw Tregelles Williams sydd wedi recordio rhai o'i hoff ddarnau o Oes Fictoria ac Edward ar yr organ hon i label Sain. Lleoliad: Capel y Tabernacl, Treforys, Abertawe, SA6 8DA Llun: Organ bib Capel y Tabernacl, drwy ganiat芒d caredig y capel.

Programme Website
More episodes