Âé¶¹Éç

Use Âé¶¹Éç.com or the new Âé¶¹Éç App to listen to Âé¶¹Éç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

CRIW'R SHIP: Parodi ar yr emyn ‘Calon Lân’

Y Talwrn

Available for over a year

Nid wy’n gofyn siwtiau moethus Sidan drud na phwythau mân. Gofyn wyf am socs sy’n matshio, Fest heb dwll a bocsyrs glân. Bocsyrs glân yn llawn daioni Tecach ŷnt na’r un drôns dlos. Dim ond bocsyrs glân sy’n denu. Pâr i’r dydd a phâr i’r nos. Pe dymunwn orig fydol, Chwim ddihangfa ohonynt sydd. Golud bocsyrs glân, rhinweddol Yn dwyn bythol elw fydd. Bocsyrs glân yn fawr eu gofod, Llaciach ŷnt na thangas tynn. Dim ond bocsyrs glân digysgod, Rhai lliw’r eira, eira gwyn.   Hwyr a bore yw ’nymuniad A thrwy’r pnawn yn ddiwahan. Diolch i Dduw, ar ran fy nghariad Fod llond fy nrôrs o focsyrs glân. Bocsyrs glân sy’n iswisg berffaith. Llyfnach ŷnt o dan dy glos. Dim ond bocsyrs glân rydd obaith O garu’r dydd a charu’r nos. Arwel Roberts (Gwyneth Glyn yn canu) 9.5

Programme Website
More episodes