Episode details

Cymru,4 mins
Porth yr Aur, Caernarfon: Lionel Rees, "dyn dewraf y byd"
Y Rhyfel Byd Cyntaf yng NghymruAvailable for over a year
Dyma stori gŵr a ddisgrifiwyd fel “dyn dewraf y byd”. Lionel Rees oedd peilot awyren arfog cynta’ Prydain ac arwr awyr cynta’ Cymru. Roedd yn un o sylfaenwyr Llu Awyr yr Unol Daleithau ac yn arloeswr ym maes gwyddor archeoleg awyr. Roedd yn un o feibion balch tre’ Caernarfon a hyd heddiw, fe yw’r unig un i gael Croes Fictoria - y VC - o’r dre honno. Ei enw llawn oedd Lionel Wilmot Brabazon Rees ac roedd yn fab Plas Llanwnda ar Stryd y Castell. Mae’n cael ei gydnabod hefyd taw Rees oedd y gŵr cynta’ i saethu awyren i’r ddaear yn hanes hedfan. Ymhen amser fe ysgrifennodd y llawlyfr cynta’ ar sut i fod yn beilot rhyfel, “Fighting in the Air”. Gŵr o’r enw James Mckinley Hargreves, Albanwr o Glasgow, oedd ar wn yr awyren. Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf fe dreuliodd Rees lawer o’i amser yn y Dwyrain Canol gan ymroi i un o’i brif ddiddordebau, archeoleg yr Hen Destament, cyn dod nôl i Gaernarfon. Yna yn 1933 fe benderfynodd fentro ar antur doedd neb wedi bod arni o’r blaen, sef hwylio o Borth yr Aur, Caernarfon, i’r Bahamas. Ar y 12fed o Awst 1947, fe briododd â gwraig leol, Sylvia Williams. Fe fagodd y ddau dri o blant cyn i Rees gael ei daro yn sâl â liwcemia. Bu farw yn 71 mlwydd oed yn 1955. Mae wedi ei gladdu ym mynwent ryfel Nassau. Lleoliad: Porth yr Aur, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SN Llun: Uwchgapten Lionel WiImot Brabazon Rees yn 1917 ar ôl cael y VC a'r MC drwy ganiatâd a charedigrwydd Alister Williams, awdur “Against the Odds”.
Programme Website