麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Cymru,2 mins

Caergybi, M么n: Hanes cipio'r morwr Gwilym Roberts yn garcharor rhyfel

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Dyma hanes Gwilym Gabriel Roberts o Gaergybi a gipiwyd yn garcharor rhyfel fis Hydref 1914, ac a fu鈥檔 garcharor drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Gwilym Roberts yn ail swyddog ar long y 鈥淐ity of Cadiz鈥 a hwyliodd o Abertawe i Hamburg, gan gyrraedd y porthladd Almaenig ar Awst 2, 1914. Ond yn dilyn cyhoeddi'r Rhyfel, carcharwyd criw y llong a鈥檜 cludo i wersyll Ruhleben, tua chwe milltir i鈥檙 gorllewin o Berlin. Bu鈥檔 garcharor drwy gyfnod y rhyfel i gyd, a cheir adroddiad yn ei eiriau ei hun o鈥檌 brofiadau ym Mhorthladd Hamburg ac yn y gwersyll yn Ruhleben. Gwersyll i hyd at 5,000 o sifiliaid oedd Ruhleben ac roedd morwyr eraill o F么n yno hefyd gan gynnwys Capten Rowland Humphreys o Borth Amlwch, y prif beiriannydd John Michael o Laneilian ac R Hughes, cogydd o Amlwch. Roedd wedi ei fagu yn Leicester House ar Stryd y Farchnad yng Nghaergybi ac roedd ei daid yn gapten llong. Aled L Jones sydd 芒'r hanes. Lleoliad: Leicester House, 73 Stryd y Farchnad, Caergybi, LL65 1UW. Llun: Lluniau o Gwilym Roberts (ar y m么r ac yn 1919) drwy garedigrwydd Aled L Jones. Yn y gornel dde uchaf mae llun o'i gartref Leicester House yng Nghaergybi.

Programme Website
More episodes