麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Cymru,4 mins

Cribyn, Llanbedr Pont Steffan: Fel gwylan i Frongelyn

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Fe ddaeth Capten Simon Jones, mab fferm Frongelyn ger Llanbed, adref at ei deulu yn ei awyren yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn rhoi syrpreis i鈥檞 ffrindiau a phobl y pentref, ar 么l cyfnod fel peilot yn Ffrainc a鈥檙 Almaen. Dros un penwythnos fe gasglodd miloedd o bobl y fro i weld yr awyren 鈥淔okker鈥 oedd wedi ei chipio oddi ar yr Almaenwyr. Yn y clip yma mae Trystan ab Ifan yn olrhain hanes y g诺r hynod yma o Geredigion oedd a鈥檌 fryd ar fod yn beilot yn y Rhyfel Mawr. Cychwynnodd ei ddiddordeb mewn awyrennau drwy ryfeddu ar sut roedd yr adar yn medru hedfan mor ddidrafferth, cyn gweld peilot yn hedfan am y tro cyntaf uwchben dinas Caerdydd a glanio ar gaeau Llandaf. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol yr RAF yn ogystal 芒 bod yn beilot a oroesodd y rhyfel pan ar un adeg doedd dim disgwyl i beilot fyw yn hirach na pythefnos. Un penwythnos fe benderfynodd Capten Simon Jones ddychwelyd n么l i fferm y teulu yn Frongelyn, Cribyn ger Llanbedr Pont Steffan, gyda鈥檌 awyren. Drwy gyfweliadau gyda aelodau teulu鈥檙 peilot mentrus hwn, ynghyd 芒鈥檌 eiriau ef ei hun, cawn gipolwg ar fywyd un o arloeswyr hedfan 100 mlynedd yn 么l. Lleoliad: Fferm Frongelyn, Cribyn, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7NJ Llun: Simon Jones mewn awyren o鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf; Simon Jones yn ei awyren; y teulu wedi casglu tu allan i Frongelyn, trwy garedigrwydd Mair Gaunt.

Programme Website
More episodes