麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Cymru,4 mins

Caerdydd: Merched yn gweithio ar dramiau'r ddinas

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Yn 1902 fe gyflwynwyd tramiau trydan i strydoedd Caerdydd, ac erbyn 1905, pan ddaeth Caerdydd yn ddinas, roedd tua 131 o dramiau ledled y ddinas gyda thua 20 miliwn o deithiau ar y tramiau hynny. Roedd yna lu o docynwyr a gyrwyr yn gweithio ar dramiau鈥檙 ddinas, a鈥檙 swyddi hyn yn cael eu llenwi gan ddynion. Ond wedi dechrau鈥檙 Rhyfel Mawr, yn arbennig ar 么l cyflwyno gorfodaeth filwrol, fe ddaeth cyfle i ferched fynd i weithio. Rhoddodd hyn gyfle i ferched i wneud swyddi fyddai fel arfer yn cael eu gwneud gan ddynion. Doedd gweithio ar y tramiau yng Nghaerdydd ddim yn eithriad ac erbyn diwedd 1915 roedd tua 60 o fenywod yn gweithio fel tocynwyr. Yr hanesydd Catrin Stevens ac Elen Phillips o鈥檙 Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan sy'n rhoi鈥檙 hanes ac yn trafod pwysigrwydd yr ymdrech hon i hanes menywod yng Nghymru ac yn trafod gwisg o'r 1920au sy'n dangos effaith hir dymor cyflogi menywod ar dramiau鈥檙 ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Lleoliad: Stori Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1BH Llun: Gwisg menyw fu鈥檔 gweithio ar dramiau Caerdydd yn y 1920au, drwy garedigrwydd Amgueddfa Sain Ffagan; llun o ddynion a merched yn gweithio ar dramiau Caerdydd yn ystod - neu'n fuan wedi - y Rhyfel Mawr, drwy garedigrwydd y 'Tramway and Light Railway Society'.

Programme Website
More episodes