麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Cymru,3 mins

Clwb Golff Bangor: Helynt yr heddychwr Thomas Rees

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Yn 1906 fe ymunodd Thomas Rees 芒 Chlwb Golff Bangor ac yn 1909 fe gafodd ei benodi yn brifathro Coleg Bala-Bangor. Roedd yn ddiwinydd mawr ac yn heddychwr oedd yn gwrthwynebu鈥檙 rhyfel. Ym mis Medi 1914 fe wnaeth llythyr o鈥檌 waith ymddangos yn Y Tyst (papur yr Annibynwyr) ac yn Y Brython (papur Cymraeg Lerpwl). Roedd y llythyr yn cyflwyno鈥檌 safbwyntiau yn gwrthwynebu鈥檙 rhyfel. Roedd gan sawl un o aelodau h欧n y Clwb Golff gysylltiadau milwrol, a nifer ohonynt ddim yn siarad Cymraeg felly fydden nhw ddim wedi medru darllen y llythyr gwreiddiol. O ganlyniad i鈥檙 llythyr hwn, fe wnaeth pwyllgor gweithredol y Clwb Golff gyfarfod a chynnig bod yr Athro Thomas Rees yn ymddiswyddo. Bu cryn lythyru n么l a mlaen rhwng y Clwb a鈥檙 Athro Thomas Rees. Gwrthododd Thomas Rees ymddiswyddo ac o ganlyniad i hyn gofynodd y Clwb iddo arwyddo llythyr oedd yn datgan ei fod yn edifarhau am sgwennu鈥檙 llythyr gwreiddiol, a鈥檌 fod yn tynnu ei eiriau yn 么l. Fe wrthododd Thomas Rees wneud hyn. Fe gynhaliwyd sawl cyfarfod rhwng y Clwb a Thomas Rees, ac ar Ragfyr 29 fe awgrymwyd bod y pwyllgor yn derbyn eglurhad Thomas Rees, a鈥檌 fod ef yn cydnabod bod cynnwys ei lythyr yn amwys. Fe dderbyniwyd hyn trwy fwyafrif gan y Pwyllgor, ond bu鈥檔 rhaid aros tan y cyfarfod olaf ym mis Ionawr cyn iddyn nhw basio y dylid cyhoeddi鈥檙 llythyrau, a dod a鈥檙 mater i ben. Fe wnaeth un aelod ymddiswyddo sef Hugh Corbett Vincent gan nad oedd yn hapus gyda鈥檙 canlyniad, ond fe ddychwelodd yn fuan iawn, a daeth yn gapten ar y Clwb yn 1916. O ran cofnodion y Clwb 鈥� does dim cyfeiriad pellach at Thomas Rees. Mae鈥檙 hanes wedi ei gofnodi yn y llyfr 鈥楥lwb Golff St.Deiniol - Canmlwyddiant 1906 -2006鈥� a olygwyd gan Iolo Wyn Williams. Yr awdur Iolo Wyn Williams a'r hanesydd chwaraeon Dr Meilyr Emrys sy'n trafod yr hanes. Lleoliad: Clwb Golff St Deiniol, Pen y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 1PX Llun: Y clwb ar ddechrau'r 1900au drwy garedigrwydd Clwb Golff Bangor.

Programme Website
More episodes