Âé¶¹Éç

Use Âé¶¹Éç.com or the new Âé¶¹Éç App to listen to Âé¶¹Éç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Unfed ar ddeg o'r unfed ar ddeg

Post Cyntaf

Available for over a year

Pa dawelwch, meddwch? Mae o hyd ochain. Cadachau gwlypion, cochion. Cornel cae yma a thraw, trum a thre, heolydd wastad rhywle'n waedlyd, gawodlyd, a gwe o filwyr yn rhyfela. 'Fighter jet' yn gwybeta. Tawelwch, tynerwch? Na. Mae'r galar militaraidd a'r iaith brudd yn brathu, braidd, yn nwyster tocynistaidd 'eleven eleven'. Torch ar lain. Parêd yn enw Prydain, ffanfferio heb wrando'r brain. Gwae'r neb ar ein sgriniau ni, gwae bawb heb wisg o babi, Talp o gywilydd i ti'r gwleidydd sydd i'r dydd yn dod heb flodyn dangos undod, heb air o deyrnged barod i'r gwyr dan y cerrig gwyn, er dal i glywed wedyn yn Irac yr oriau hyn dwrw'r waedd. Rocets ar dro ym Mhalesteina'n tanio; yn Syria'r ne'n ceseirio. Pa dawelwch, meddwch? Mae o hyd ochain, Cadachau gwlypion, cochion. Cornel cae yma a thraw, trum a thre, heolydd wastad rhywle'n waedlyd, gawodlyd, a gwe o filwyr yn rhyfela. 'Fighter jet' yn gwybeta. Tawelwch, tynerwch? Na.

Programme Website
More episodes