麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Cymru,2 mins

Ceunant, Caernarfon: Gorsaf gyfathrebu Marconi

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe ddefnyddiodd y Swyddfa Bost, a wedyn y Llynges Brydeinig, safle cyfathrebu di-wifr Marconi sydd ar ochr Mynydd y Cefn Du, y Ceunant ger Caernarfon, fel rhan o鈥檙 ymdrech ryfel. Roedd yn cael ei ddefnyddio i gyfathrebu negeseuon ar hyd a lled Ewrop ac i ddarganfod safleoedd targed y gelyn. Adeiladwyd yr adeilad yn 1914 ac roedd 'na 10 mast anferth i鈥檞 gweld ar y mynydd wrth i鈥檙 safle ddatblygu. Roedd Gugliemo Marconi yn ddyfeisiwr ac yn beiriannydd electroneg o鈥檙 Eidal a ddatblygodd ffyrdd o gyfathrebu heb wifrau. Roedd gorsafoedd fel hon yn Ceunant yn hanfodol i ymdrech rhyfel Prydain. Mae鈥檙 adeilad yn dal i sefyll hyd heddiw ac wedi cael ei ddefnyddio yn ddiweddar fel canolfan ddringo ond erbyn hyn mae鈥檙 safle yn cael ei ddefnyddio fel stablau a gyfer ceffylau鈥檙 perchennog. Mi fu'r hanesydd lleol o Lanrug, Dafydd Whiteside Thomas, a鈥檙 Athro Iwan Morus o adran hanes Prifysgol Aberystwyth draw i鈥檙 Ceunant i olrhain hanes y safle ac i weld sut roedd y lle yn cael ei ddefnyddio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Lleoliad: Ceunant, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4SA. Llun: Gorsaf Marconi ddoe a heddiw.

Programme Website
More episodes