Episode details

Cymru,3 mins
Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd: Sêr rygbi Cymru a laddwyd yn y Rhyfel
Y Rhyfel Byd Cyntaf yng NghymruAvailable for over a year
Alun Thomas sy'n adrodd am y 13 o ddynion oedd wedi cynrychioli Cymru yn rhyngwladol ar y cael rygbi, ac a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd rygbi Cymru yn mwynhau oes aur pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y tîm cenedlaethol wedi ennill y Gamp Lawn gyntaf a buddugoliaethau hanesyddol dros Seland Newydd oedd yn golygu na wnaeth neb eu curo rhwng mis Mawrth 1907 a mis Ionawr 1910. Bu farw dros 40,000 o Gymry yn y Rhyfel Mawr. Roedd 13 ohonyn nhw hefyd wedi cael yr un profiad balch o wisgo'r crys coch fel aelodau o dîm rygbi rhyngwladol Cymru, sef: Richard Thomas, John Lewis Williams, David Westacott, Horace Wyndham Thomas, Richard Davies Garnons Williams, Charles Gerald Taylor, Louis “Lou� Augustus Phillips, Charles Meyrick Pritchard, Philip Dudley Waller, Brinley Richard Lewis, William “Billy� Purdon Geen, Fred Leonard Perrett a David Watts. Lleoliad: Stadiwm y Mileniwm, Stryd Westgate, Caerdydd, CF10 1NS Llun drwy garedigrwydd Undeb Rygbi Cymru a Liz Jones
Programme Website