Episode details

Available for over a year
Bydd Cymru gyfan megis Ffrainc Yn peintio鈥檙 ffyrdd a gweiddi dros grys mwy melyn na chrys Chris Froome - Aled mewn dillad Pudsey. Fel gwraig i feiciwr nodaf hyn - rheolau aur rhag helbulon Ti angen clwt a Vaseline Neu dy din fydd yn grybibion! Cadwa linynnau dy forddwyd yn dwym Cer a digon o ddiod oer melys, Losin, a fferins a da da da i bob tyle a rhiw ag Alltwalis. Mi gymrith amser i wisgo鈥檔 iawn A gwasgu mewn i鈥檙 leicra A鈥檙 pants, a鈥檙 bibs a鈥檙 menyg a'r het a鈥檙 helmed y sana a鈥檙 sgidia... Ond paid prynu dillad sy rhy dynn Neu byddi di鈥檔 canu tenor A cofio bod dy draed yn sownd i鈥檙 beic Nei mi fyddi di ar dy ochr! Cofia wrando ar Rhian Haf yn dy dywys drwy niwloedd Corris drwy eira oer i Ben y pas a heulwen dragywydd fy ynys (M么n)... Ond heb os y peth pwysicaf yw, cadw un yn hapus - S锚l bendith Mrs Huws sydd ben Y hi sy鈥檔 gwisgo鈥檙 trowsus. Ond codi arian ydy鈥檙 nod Felly deuwch oll i wylio A thaflu ceiniog ddwy neu dair I Aled wrth wibio heibio...
Programme Website