麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Cerdd Alan Llwyd i Galwad Cynnar

Galwad Cynnar

Available for over a year

Yng Nghymru y mae rhyfeddodau, adar a choed a blodau, a mynyddoedd a dyffrynnoedd, a phrennau yn gwegian gan ddail bob gwanwyn a haf; rhyfeddod fel drudwy Gerlan, drudwy yn gwrlid uwch Gerlan, yn erlid ei gilydd uwch Gerlan; cymylau鈥檔 malu鈥檔 fil o ddarnau m芒n, m芒n; drudwy, cawodydd o ddrudwy, lond awyr, a Gerlan yn dywyll. Rhyfeddod fel rhyfeddod marwolaeth y dail ym Mro Elwy, a鈥檙 farwolaeth yn ailenedigaeth y dail o fewn trefn natur ei hun eto ym mhair y tymorau: y drefn a fu鈥檔 bod erioed cyn i hyrwyddwyr cynnydd ymyrryd 芒鈥檙 tymhorau. Yng Nghymru y mae rhyfeddodau, rhyfeddod fel y gerddi ym Modnant, bwa aur y banadl uwchben y l么n islaw fel ystafell mewn castell coeth 芒鈥檌 nenfydau鈥檔 siandeliriau laweroedd; eu melynder ar daen, a鈥檙 haenau cl貌s o dresi aur fel clystyrau o s锚r, a鈥檙 l么n islaw fel L么n Goed felen i gyd. Yng Nghymru hefyd mae rhyfeddod y m么r, y m么r yn sisial yn isel, yn hisian fel sarff, wrth olchi鈥檙 graean i鈥檙 lan; ond ar draethau Cymru hefyd mae 么l llanastr a gwastraff, llanastr a gwastraff blith-draphlith ar fymryn o draeth, esgyrn hen bysgod, cragen cranc; poteli a bagiau plastig yn tagu鈥檙 adar, ac yn tynnu鈥檙 gwylanod i鈥檙 tir o鈥檜 cynefin i leddfu eu cnofa o lwgfa, oblegid i ni lygru a gwenwyno鈥檜 cynefin, a dwyn eu cynhaliaeth, a鈥檜 gyrru i fwydo ar faw ein tomennydd gwastraff. Ac ar raglen Gerallt Pennant cewch glywed am y bwa aur yng Ngerddi Bodnant, ac am ddrudwy Gerlan, ac am yr hydref amryliw ym Mro Elwy tra bo i natur a byd ystyr a gwerth rhag y distryw i gyd cyn inni halogi鈥檙 wylan gilwgus 芒鈥檔 holew, a dwyn ei chynhaliaeth, a dileu 芒鈥檔 mwg a鈥檔 cemegau y rhywogaethau i gyd.

Programme Website
More episodes