Episode details

Available for over a year
Ar Sadwrn hir felyn tesog yn Stiniog, fe ddaethoch i grasu鈥檙 Rhosydd, i deimlo cadernid y graig, i esgyn y llechweddau du, i ymestyn tua鈥檙 awyr denau, i naddu eich esgidiau ar lechi a thorri distawrwydd hen y moelydd ag ebill eich anadl. Croesoch y llinell derfyn a鈥檙 mynydd yn ddim ond dafnau chwys ar dalcen a brychni baw ar goesau. Chi sy鈥檔 cyrraedd copaon. Chi sy鈥檔 gweld y pell yn agos a phethau bychain yn fawr. A鈥檆h camau chi sy鈥檔 troi breuddwyd yn weledigaeth ar gwrs eich byd.
Programme Website