Âé¶¹Éç

Use Âé¶¹Éç.com or the new Âé¶¹Éç App to listen to Âé¶¹Éç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Cerdd Casia Wiliam, Bardd mis Medi, i Galwad Cynnar.

Galwad Cynnar

Available for over a year

Dow, meddai Dyn, mi alla i wneud yn well fy hun Edrychodd o ddifri ar ei fyd o glai a choed, o garreg a llechi gan feddwi ar y syniad o Fywyd Modern. Gwell. Cyflymach. Cryfach. Ysgafnach. Trodd ei law at atom; aeth ati i ymyrryd… A do! Llwyddodd i drin cadwyni o bolymer, carbon, ocsigen, nitrogen, swlffwr a silicon a chreu plastig. Plastig! Plastig! Plastig! Ffantastig! Plastig yn llifo o’n droriau, o’n pyrsiau, o’n clustiau i mewn i grombil y ddaear ac i’r tonnau. Wele! Ein dyfais wych mewn gwrych, ar lwybr troed, ar frigau’r coed, yn y pysgod, ar ein platiau, yn ein boliau… Oedwn, rhwng cegiad a chegiad i brofi blas ein Bywyd Modern. Mae ei wenwyn hallt yn ein gyrru at atom eto ond mae patrymau’r cadwyni’n ein drysu a’n dallu rhag dychmygu mwy. Mae terfyn ar orwel ein gweld. Ond yna, dow, meddai Dyn, yli ar Natur ei hun. Mae gwychder yma o’n blaenau! Yli’r pry yma, yn hongian ben i waered. Heb siw na miw, mae’n byw mewn realiti sydd tu hwnt i ni. Mae’n hongian, mae’n cerdded ben i waered. GWELER, meddai Dyn. Gallwn ddysgu gan Natur ei hun.

Programme Website
More episodes