麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,9 mins

Blodau Cymru - Goronwy Wynne

Galwad Cynnar

Available for over a year

Blodau Cymru - Byd y Planhigion - Goronwy Wynne Llyfr newydd ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa BLODAU CYMRU: 鈥楥AMPWAITH鈥� GAN UN O FOTANEGWYR GORAU鈥橰 WLAD Mae cyfrol newydd hir-ddisgwyliedig wedi cael ei chanmol fel 鈥榗ampwaith鈥� gan yr Athro Deri Tomos. Mae鈥檙 gyfrol Blodau Cymru: Byd y Planhigion a gyhoeddir yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa yn cwmpasu gwaith oes y botanegwr Goronwy Wynne, fu鈥檔 brif ddarlithydd Bioleg a chofnodwr i Gymdeithas Fotaneg Prydain am ddeugain mlynedd. Mae鈥檙 llyfr, sydd bron yn chwe chant tudalen gyda dros pum cant o luniau, yn cwmpasu holl blanhigion Cymru mewn cyfrol uchelgeisiol, clawr caled. 鈥楳ae鈥檙 gyfrol hon yn ffrwyth cariad oes鈥� meddai鈥檙 Athro Deri Tomos, 鈥榊n ogystal 芒 bod yn gatalogiwr o fri, mae Goronwy Wynne yn un sy鈥檔 gweld ac yn ymddiddori鈥檔 angerddol yn yr hyn sydd tu 么l i wyneb rhamantus natur.鈥� Mae Twm Elias hefyd wedi ei ryfeddu gan y llyfr. 鈥楥yflwynir y testun mewn arddull gryno, hawdd ei deall ac sy鈥檔 bleser i鈥檞 darllen. Dyma un o fotanegwyr gorau Cymru, sy鈥檔 gyfathrebwr ac yn sgrifennwr gwych,鈥� meddai, 鈥楪welwn awdurdod yr arbenigwr yn serennu yma, mewn cyfrol sydd 芒 sglein blynyddoedd lawer o saern茂o gofalus arni.鈥� Dyma鈥檙 gyfrol Gymraeg gyntaf i geisio cyflwyno hanes a sefyllfa planhigion Cymru. Mae鈥檙 gyfrol yn trafod eu henwau, eu dosbarthiad a鈥檜 cynefinoedd. Sonnir am ecoleg y planhigion 鈥� y rhai cyffredin a鈥檙 rhai prin, a gofynnir pam fod y peth a鈥檙 peth yn tyfu yn y fan a鈥檙 fan. Ystyrir y coed a鈥檙 rhedyn a hyd yn oed y chwyn, gan dywys y darllennydd i bob un o hen siroedd Cymru gan ddisgrifio rhyw deg safle ym mhob sir, gyda鈥檜 nodweddion a鈥檜 blodau arbennig, a sut i ddod o hyd iddynt a鈥檜 gwerthfawrogi. Ar 么l graddio ym Mangor mewn Amaethyddiaeth a Botaneg gu Goronwy Wynne yn dysgu am gyfnod yn ei hen ysgol yn Nhreffynnon, yna yn Brif Ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru. Derbyniodd raddau doethor o Brifysgol Cymru a Phrifysgol Salford ac mae鈥檔 Gymrawd o Brifysgol Bangor ac o Gymdeithas Lineaidd Llundain. Bu鈥檔 Gofnodydd i Gymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon am 40 mlynedd ac yn olygydd Y Naturiaethwr i Gymdeithas Edward Llwyd am ddeng mlynedd. Yn 2014 derbyniodd Fedal Wyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.

Programme Website
More episodes