Âé¶¹Éç

Use Âé¶¹Éç.com or the new Âé¶¹Éç App to listen to Âé¶¹Éç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Nid eich map chi oedd fy map innau

Geraint Lloyd

Available for over a year

Nid eich map chi oedd fy map innau Pa fap oedd gennym ond ffin a’n gwasgodd rhwng traethau llaid a chregyn gweigion ac, yn bell ym mherfedd gwlad, ehangder ein hanwybod, argoel ein diddymu a nesâi bob dydd ar ddalennau paranoia: enwant ein diflannu mewn iaith ry hawdd i’w deall. Euthum i leoedd gwag ein dychymyg, i’r tir llosg a’r rhedyn a’r ffermydd briw fel herwr a fwriwyd i’r nos am gwestiynu ofn y llwyth. Canfûm ym mawdd y tir yr hyn nad oedd eich map chi yn ei ganiatáu i mi: agennau a’m hagorodd, nentydd a’m gwaedodd o’m bustl a’m dig. Lle’r ydych chi’n palu eich beddi dros baneidiau di-ben-draw a’r un hen wynebau blin, creaf fy myd o’r newydd, nid o falurion gwrthdrawiadau ond o’r ymylon a’m creodd innau. Morgan Owen

Programme Website
More episodes