Episode details

Available for over a year
Rhiwddolion. 飪� Ar ei hanterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg credir fod hyd at gant o drigolion yn byw yma, mewn tyddynnod gwasgaredig a thai oedd yn gartrefi i chwarelwyr a鈥檜 teuluoedd. Byddai rhai chwarelwyr yn gadael y pentref tua phump y bore i gerdded ar hyd Sarn Helen i lawr i orsaf drenau Pont y Pant, er mwyn bod yn eu gwaith yn y chwareli ym Mlaenau Ffestiniog erbyn saith y bore. Roedd eraill yn gweithio yn y chwareli mwy lleol, e.e. Chwarel Rhiwddolion sy鈥檔 y goedwig y tu 么l i T欧 Uchaf, Chwarel Hafodlas ar gyrion Pentre Du, a鈥檙 amryfal chwareli bychain ym Mhenmachno a Dolwyddelan. Dechreuodd Rhiwddolion edwino yn y 1930鈥檃u law yn llaw 芒 thranc y chwareli, yn arbennig felly chwareli mawr Blaenau Ffestiniog. Mudodd y trigolion i lawr i Betws y Coed a Llanrwst, a rhai ymhellach i lawr Dyffryn Conwy i鈥檙 tywydd a chyfleoedd gwaith gwell yn Llandudno a Bae Colwyn. Wrth gerdded heibio鈥檙 tai sylwch bod un adeilad 芒 set o risiau yn arwain ohono. Dyma lle鈥檙 oedd siop y pentref, fyddai, yn ogystal 芒 gwerthu nwyddau a gludid i fyny Sarn Helen, yn gwerthu nwyddau a gynhyrchid ar y tyddynnod lleol.
Programme Website