Episode details

Available for over a year
Coedwig i nodi Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost 2020 Mae鈥檔 aeaf yn y goedwig, y gaeaf oeraf a welwyd erioed gan y prennau llwyd sy鈥檔 sefyll yn stond, mewn rhesi difesur ar y llethrau llwm fel torf o gyrff noeth yn y niwl. Mae hi鈥檔 ddistaw, heb ochenaid na si, ac nid oes un chwa o wynt i gynhyrfu sudd eu gwythiennau sych nac i ddeffro鈥檙 un ddeilen grin i ffarwelio golau gwan y dydd. Mae hi鈥檔 nosi, ac ym mhylni min y nos mae streipiau dryslyd y brigynnau main yn rith o freichiau uwchben d眉wch y pridd yn ymestyn yn erfyniol i鈥檙 byd. Does neb yn y goedwig. Ond heno, gadawn gysur yr aelwyd dwym a down gyda鈥檔 gilydd rhwng y prennau mud, gyda gwres ein cyrff a鈥檔 canhwyllau claer i fywiogi鈥檙 llonyddwch, ac mae fflach y fflamau鈥檔 deffro atgof hen ac mae鈥檙 coed yn rhynnu. Clywn s诺n ein sibrydion fel egin cyntaf y gwanwyn, a chofiwn bleser y misoedd mwyn, pan oedd y goedwig mor brysur 芒 ffair, llawn bwrlwm bywyd a blagur yn byrstio, gwreiddiau鈥檔 tyrchu a sugno鈥檔 farus o鈥檙 pridd, ac ymgodymu didostur y glasbren yn ei ras i gyrraedd ffafr yr haul. Angof oedd creithiau鈥檙 rhisgl dan duswau鈥檙 dail newydd, a daethom yn ddigymell yn llu i edmygu鈥檙 gogoniant, 芒鈥檔 llygaid yn osgoi鈥檙 cysgodion. Ond heno, yn noethni鈥檙 gaeaf er gwaethaf yr oerfel bythol gynyddol down yn 么l 芒鈥檔 llygaid ar agor, down yn 么l, yn sobor, at ein coed.
Programme Website