麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,5 mins

Gwers siarad yn glir i Aled!

Aled Hughes

Available for over a year

Mae llawer o gwyno nad ydi actorion teledu yn siarad yn glir. Mae actorion angen cael cyhyrau鈥檙 ceg i weithio er mwyn ymdopi gyda rhythm brawddegau, a iaith liwgar a heriol. Mae actor angen ymarfer cyhyrau sydd ddim yn cael eu defnyddio yn naturiol bob dydd. Yng nghyfnod Shakespeare bu Rhian ym mhrifysgol Aberystwyth fel myfyrwraig lle daeth hi dan ddylanwad Emily Davies 鈥� a oedd yn rhoi pwyslais ar lais ac ynganu. Mae Rhian ei hun fel darlithwraig rwan yn trwytho ei myfyrwyr yn Shakespeare. Yng nghyfnod Shakespeare 鈥� roedd dramau i鈥檞 clywed yn hytrach na鈥檜 gweld. Wrth gwrs yn oes Elisabeth 1 鈥� roedd drama i鈥檞 chlywed yn hytrach na鈥檌 gweld 鈥� doedd dim goleuo fel heddiw, a roedd y props a鈥檙 set yn llai pwysig. Roedd cynulleidfa theatr yr oes wedi datblygu clustiau main iawn. Roedd yr actorion yn mynegi eu hunain drwy iaith yn bennaf felly roedd rhythm, swn, goslef, a thaflu llais yn hanfodol er mwyn rhoi ystyr ac emosiwn i鈥檙 frawddeg. Mae Rhian ei hun wedi chwarae rhan mewn cynyrchiadau o ddramau Shakepeare ac yn gwybod be di鈥檙 heriau i actor. Roedd Shakespeare yn creu geiriau newydd heriol, ac yn aml iawn gyda golygfeydd o ddawns ar ddiwedd dramau. Mae angen i鈥檙 actorion fod yn gorfforol heini er mwyn perfformio ei waith. Roedd Shakespeare yn fardd ac yn creu brawddegau efo 5 curiad calon neu yn 5 carlam ceffyl. Dyna sy yn gwenud Shakespeare mor arbennig 鈥� roedd o mor agos at ei gynulleidfa 鈥� tydi ei waith ddim yn anodd o gwbl. Roedd 10 sill i linellau Shakespeare 鈥� roedd unrhyw beth o dan neu dros 10 yn cyfleu stad meddwl y cymeriad. Gall cynulleidfa Gymraeg ddeall Shakespeare achos mae鈥檙 fframwaith yn debyg i gerdd dant neu鈥檙 gynghanedd. Mae'r defnydd o gytseiniaid, llafariad hir ac atalnodi, i gyd yn bwysig.

Programme Website
More episodes