Âé¶¹Éç

Use Âé¶¹Éç.com or the new Âé¶¹Éç App to listen to Âé¶¹Éç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,8 mins

Cerdd 'Cyfarwyddiadau' gan Ceri Wyn Jones

Dewi Llwyd ar Fore Sul

Available for over a year

Cyfarwyddiadau (i Ifan, ar ei ymweliad cyntaf â Pharc y Scarlets) Os collwn ni ein gilydd yn y crowd, arhosa di wrth gerflun Graf, ocê? Saf yno. Paid ag ofni. Bydd yn browd dy fod ti’n sefyll yn ei ymyl e. Ac er bod dynion dierth ymhob man sy’n hidio dim amdanat, mwy na’r glaw, saf yno, bydd yn ddewr a drycha lan i fyw ei lygaid; cydia yn y llaw sy’n cadw’r gelyn draw, nid canu’n iach, ac yn y fraich fawr gre sy’n dal y bêl mor dynn, fel tad yn cwtsio’i blentyn bach, y bêl sy’n Gymru gyfan, doed a ddêl. Saf yno, ac ni phoenaf i ddim oll – wrth gerflun Graf, ni fyddi di ar goll.

Programme Website
More episodes