麻豆社

Use 麻豆社.com or the new 麻豆社 App to listen to 麻豆社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Beibl Anni Ll欧n

Aled Hughes

Available for over a year

Mae鈥檙 Beibl yn drwm. 鈥淢ae鈥檙 Beibl yn blincin trwm... ...fedrai鈥檓 ei gario fo siwr Dduw...鈥 a鈥檙 daith ar draws y ddinas yn ormod ar ddwy droed, ar ddiwedd dydd, er gwaetha maint y gymwynas, o鈥檙 trydar i鈥檙 radio i鈥檙 DM i鈥檙 tecstio, er mwyn i鈥檙 Beibl gael dod adra. Mae鈥檙 beibl yn drwm. Mae hi鈥檔 galw am lifft. Ond ar ei glin mae鈥檙 horwth yn trymhau ac inc yr enwau鈥檔 twchu nes llifo鈥檔 driog dros ei choesau... Robert Roberts Elen Clarissa Jones Thomas John John Palfrey Allan ac Ada a鈥檙 staeniada鈥檔 ganghenna coeden ar hyd ei throwsus yn ei harwain yn 么l hyd linach y Jonsus. Mae鈥檙 Beibl yn drwm. Mae naw gair, ers canrif a hanner, yn naw st么n o awdurdod capten llong: Robert Roberts is the true owner of this book. Pwys wrth bwys, adnod wrth adnod, mae鈥檔 gwasgu ar ei chluniau... Melldigo Cain. Ezeciel yn bwytta鈥檙 llyfr. Ing a chwys gwaedlyd Crist. Y wraig wedi ei gwisgo 芒鈥檙 haul a鈥檙 lleuad o dan ei thraed. A鈥檌 thraed hitha鈥檔 binna bach, bellach, achos mae鈥檙 Beibl yn drwm. Mae arogl oed yn llenwi鈥檙 car, ond nid amser mae鈥檔 synhwyro. Pellter. 鈥淏oston?!鈥 Penllech, Tudweiliog, Llaniestyn, Lerpwl a Boston... ac mae olion bysedd y blynyddoedd, fu鈥檔 dal mor dynn yn y clawr ar frig sawl ton, yn ei wthio i lawr eto i wneud yn siwr ei bod yn teimlo ei bwysau鈥檔 llawn. Ydi, mae鈥檙 Beibl yn drwm. Heddiw, roedd yn rhy drwm i鈥檞 gario. Ddoe, roedd yn rhy drwm i beidio.

Programme Website
More episodes